top of page

Cymraeg / Welsh

Seremonïau Dwyieithog / Bilingual Ceremonies

Welsh humanist celebrant Mair Garland

Er 'mod i bellach yn byw yn ne-ddwyrain Llundain, 'rwy'n Gymraes i'r carn. Yn wreiddiol, dw i'n dod o Lantrisant yn Rhondda Cynon Tâf, gyda gwreiddiau yn Sir Benfro.

​

Mi fyddwn i wrth fy modd yn cynnal seremoni ddwyieithog ar gyfer eich priodas, seremoni enwi i'ch plentyn neu angladd i'ch anwyliad.

​

Mae modd cynnal elfennau o'r seremoni yn y Gymraeg a chynnwys darlleniadau a chaneuon Cymraeg hefyd - mi fydda i'n hapus iawn i awgrymu elfennau i siwtio'ch seremoni chi. Cysylltwch am fwy o fanylion.

​

'Dw i wedi bod yn ffodus iawn i siarad â BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw ynglÅ·n â seremonïau enwi plant.

​

Erthygl BBC Cymru Fyw: 'Credu ym mhŵer pobl: Y cynnydd mewn seremonïau di-grefydd'

​

Cyfweliad gyda Hanna Hopwood Griffiths o 'Gwneud Bywyd yn Haws' yma.

​

I also speak Welsh, and I'd be delighted to discuss the practicalities of conducting a bilingual ceremony with you. 

 

bottom of page